RHODDION

Mae Mid Border Arts yn elusen gofrestredig sy’n dod ag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau’r celfyddydau i Lanandras a’r cyffiniau yn y gororau yng nghanolbarth Cymru. Mae MBA hefyd yn cynnal Ystafelloedd Cynnull Llanandras fel adnodd cymunedol, gan gyfrannu at gymuned iach a bywiog.

Ond dydy gwerthu tocynnau, rhoi ystafelloedd ar osod a defnyddio grantiau ddim yn ddigon i dalu am y gwaith i gyd rydyn ni’n ei wneud.

Mae hyn yn golygu bod angen i MBA geisio help ychwanegol oddi wrth fusnesau lleol a rhoddwyr unigol.

I helpu MBA yn ariannol, defnyddiwch y ddolen isod.

 NAWDD

Mae gan Celfyddydau y Gororau gynllun newydd sy’n gwahodd unigolion a busnesau lleol i gyfrannu tuag at gynnal y mudiad cymunedol bywiog hwn trwy roi cymorth ariannol i ddigwyddiad penodol. Caiff yr help hael hwn ei gydnabod ym mhob un o’r deunyddiau marchnata a hybu.

PRESTEIGNE AND NORTON TOWN COUNCIL